#

Ariannu gwasanaethau,Y Pwyllgor Deisebau | 15 Tachwedd 2016
 Petitions Committee | 15 November 2016
 
 
  

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Rhif y ddeiseb: P-05-719

Teitl y ddeiseb: Cyllid gan Gynulliad Cymru ar gyfer Gwasanaethau

Testun y ddeiseb: Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Cynulliad i gyllido gwasanaethau hanfodol yng Nghymru nad ydynt yn cael cyllid gan y Llywodraeth (fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid).

Yn 2015, achubodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub 9,763 o bobl o ddyfroedd y Deyrnas Unedig (gan gynnwys 1,029 o bobl yn nyfroedd Cymru). Cafodd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid dros filiwn o alwadau i’w llinell gymorth ledled y DU yn 2015 a sicrhaodd bron i 1,800 o euogfarnau ar gyfer creulondeb i anifeiliaid. Fodd bynnag, nid yw’r sefydliadau hyn yn cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth San Steffan er eu bod yn gorfodi cyfreithiau Llywodraeth San Steffan.

Credaf fod hyn yn anghywir yn 2016, ac y dylai’r sefydliadau datganoledig gyllido’r gwaith caled y mae’r sefydliadau hyn yn ei wneud dros bobl Cymru.

Cefndir

Mae sefydliadau'r trydydd sector (mae'r 'trydydd sector' yn cyfeirio'n bennaf at elusennau, ond nid yw'n cynnwys undebau llafur, pleidiau gwleidyddol, ac ati) yn cael arian o nifer o ffynonellau, gan gynnwys codi arian, arian y loteri, incwm a enillir, grantiau gan ymddiriedolaethau elusennol, y sector preifat, ac arian gan y llywodraeth (naill ai gan lywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU neu'r UE).

Ar hyn o bryd, mae tua 33 y cant o incwm y trydydd sector yng Nghymru yn dod o arian cyhoeddus, ond mae Prif Weinidog Cymru wedi nodibod hyn yn debygol o ostwng gan fod Llywodraeth Cymru am i'r sector fod yn llai dibynnol ar gyllid y llywodraeth.

Mae ffigurau gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn dangos bod incwm amcangyfrifedig y trydydd sector yn £2 biliwn yn 2013-14, sef cynnydd o tua £400 miliwn ar yr amcangyfrif ar gyfer 2012-13 (yn bennaf oherwydd cynnydd o £350 miliwn yn incwm rhent amcangyfrifedig cymdeithasau tai).

Mae Adroddiad Blynyddol Cynllun y Trydydd Sector ar gyfer 2014-15 Llywodraeth Cymru yn dangos y cafodd y trydydd sector £290 miliwn mewn cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn 2014-15. Mae cyllid grant Llywodraeth Cymru wedi gostwng o £350 miliwn yn 2010-11 i £208 miliwn yn 2014-15, sef gostyngiad o dros 40 y cant mewn pum mlynedd ariannol. Mae rhan o hyn o ganlyniad i newid yn y mecanwaith cyllido a ddefnyddir, o grantiau i gontractau.

Cyllid Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn ddiwygiedig o'i Chynllun y Trydydd Sector ym mis Ionawr 2014. Mae'r cynllun hwn yn ddatganiad o fwriad Gweinidogion Cymru i fwrw ymlaen â'u cydberthynas â'r trydydd sector.  Mae atodiad i Gynllun y Trydydd Sector yn cynnwys Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector. Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector yn nodi'r egwyddorion allweddol sy'n sail i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y trydydd sector, a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddisgwyl gan y trydydd sector yn gyfnewid am hyn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar Gynllun y Trydydd Sector sy'n rhoi trosolwg o ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r trydydd sector.

Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ym mis Ebrill 2016, nododd Carwyn Jones:

‘O ran y materion a godwyd gennych mewn perthynas â chyllid ar gyfer y Trydydd Sector, rwy’n teimlo ei fod yn bwysig bod y sector yn cael cymorth i amrywio ei sylfaen gyllido a sicrhau ei fod yn llai dibynnol ar arian cyhoeddus

‘Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod y sector yn bell o fod yn ddibynnol ar arian cyhoeddus...mae gwaith ymchwil yn dangos bod oddeutu 33 y cant o incwm y Trydydd Sector yn dod o arian cyhoeddus. Nid yw’n ymddangos bod hyn wedi newid llawer yn ddiweddar.  

‘Roedd rhai sefydliadau, fodd bynnag, yn dibynnu mwy nag eraill ar gymorth gan y llywodraeth, ac o ystyried yr hinsawdd economaidd presennol, mae ein lefel bresennol o gyllido yn annhebygol o fod yn gynaliadwy yn y dyfodol...Nid yw’n glir ar hyn o bryd i ba raddau y gallai ffynonellau eraill o gyllid wneud yn lle y gostyngiadau mewn arian cyhoeddus, ond mae’n amlwg yn bwysig i geisio sicrhau bod hyn yn digwydd…’

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI)

Cafodd deisebau tebyg sy'n ymwneud â'r RNLI eu cyflwyno i Senedd y DU yn 2012, gyda 18 o lofnodion ac ym mis Mawrth 2014 gyda 9 llofnod. Mae deiseb agored hefyd sy'n galw am yr RNLI i gael arian gan y llywodraeth. Hyd yma mae ganddo 22 o lofnodion.

Mae gwefan RNLI yn nodi mai un o'r pethau na fydd yn newid yw ei annibyniaeth o lywodraeth, ac nad yw'n ceisio cyllid gan y llywodraeth ganolog.

Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA)

Mae Adolygiad Blynyddol 2015 y RSPCA yn dangos fod ganddi incwm o £124.4 miliwn yn 2015. Roedd yn cynnwys incwm cymynrodd o £63.1 miliwn, cyfraniadau a rhoddion o £46.2 miliwn, gweithgareddau elusennol o £8.7 miliwn, incwm arall o £5.1 miliwn, incwm buddsoddi o £0.8 miliwn a thanysgrifiadau aelodaeth sy'n werth £0.5 miliwn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi.   Fodd bynnag, dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.